Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 18:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.

25. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.

26. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’

27. Roedd y brenin yn teimlo trueni drosto, felly canslodd y ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.

28. “Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’

29. “Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’

30. “Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a cafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.

31. “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.

32. “Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i.

33. Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’

34. “Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio, nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl.

35. “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau'n llwyr i'ch gilydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 18