19. “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd.
20. Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
21. Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”
22. Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!
23. “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.
24. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.
25. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.
26. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’
27. Roedd y brenin yn teimlo trueni drosto, felly canslodd y ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.