Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:8-26 beibl.net 2015 (BNET)

8. Pan wnaethon nhw edrych i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

9. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”

10. Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”

11. Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod reit siŵr, a bydd yn rhoi trefn ar bopeth.

12. Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi ei gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.”

13. Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr.

14. Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen.

15. “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr.

16. Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”

17. “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.”

18. Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen, a chafodd ei iacháu y foment honno.

19. Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”

20. “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”

22. Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael

23. pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.

24. Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”

25. “Ydy, mae e” atebodd Pedr.Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”

26. “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17