Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:20-27 beibl.net 2015 (BNET)

20. “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”

22. Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael

23. pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.

24. Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”

25. “Ydy, mae e” atebodd Pedr.Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”

26. “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho.

27. “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17