Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 17:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e.

2. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau.

3. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.

4. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.”

5. Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!”

6. Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr.

7. Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.”

8. Pan wnaethon nhw edrych i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

9. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 17