Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 16:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Roedden nhw'n deall wedyn ei fod ddim sôn am fara go iawn; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e.

13. Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”

14. “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”

15. “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”

16. Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”

17. “Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd.

18. A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (y garreg). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi.

19. Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi ei rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi ei ganiatáu yn y nefoedd.”

20. Yna dyma Iesu'n rhybuddio ei ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.

21. O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.

22. Dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a'n gwaredo!” meddai, “Wnaiff y fath beth byth ddigwydd i ti, Arglwydd!”

23. Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o'm golwg i Satan! Rwyt ti'n rhwystr i mi; rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 16