Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 15:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo,

2. “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!”

3. Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau?

4. Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’ a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’

5. Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw,’

6. Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.

7. Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi:

8. ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.

9. Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’”

10. Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall.

11. Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”

12. A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!”

13. Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny.

14. Gadewch iddyn nhw – arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.”

15. Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni beth ydy ystyr y dywediad.”

16. “Ydych chi'n dal mor ddwl?” meddai Iesu.

17. “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 15