Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:8-26 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”

9. Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw,

10. ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”

11. Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan?

12. Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”

13. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.

14. Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.

15. Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf,

16. ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e.

17. Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir:

18. “Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.

19. Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;

20. Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu. Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol.

21. Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.”

22. Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn.

23. Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”

24. Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”

25. Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd.

26. Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12