Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:41-50 beibl.net 2015 (BNET)

41. Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!

42. A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!

43. “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle,

44. mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo.

45. Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”

46. Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e.

47. Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.”

48. Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?”

49. A chan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

50. Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12