Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:38-48 beibl.net 2015 (BNET)

38. Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”

39. Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.

40. Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear.

41. Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!

42. A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!

43. “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle,

44. mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo.

45. Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”

46. Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e.

47. Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.”

48. Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12