Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 12:27-37 beibl.net 2015 (BNET)

27. Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi.

28. Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.

29. “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.

30. “Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.

31. Felly gwrandwch – mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd.

32. Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.

33. “Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi.

34. Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw.

35. Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi ei storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi ei storio ynddyn nhw.

36. Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud.

37. Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 12