Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:36-50 beibl.net 2015 (BNET)

36. Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw,

37. “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.”

38. Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

39. “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa.

40. Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o'n plaid ni.

41. Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr.

42. “Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf.

43. Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd.

45. Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern.

47. Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan. Mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw gyda dim ond un llygad na bod gen ti ddwy a chael dy daflu i uffern,

48. lle‘dydy'r cynrhon ddim yn marw,a'r tân byth yn diffodd.’

49. “Bydd pawb yn cael eu puro â thân.

50. “Mae halen yn beth defnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas, pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Byddwch â halen ynoch, a byw'n heddychlon gyda'ch gilydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9