Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:31-38 beibl.net 2015 (BNET)

31. am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”

32. Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo.

33. Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?”

34. Ond wnaeth neb ateb. Roedden nhw wedi bod yn dadlau pwy oedd y pwysica.

35. Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.”

36. Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw,

37. “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.”

38. Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9