Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:24-33 beibl.net 2015 (BNET)

24. Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”

25. Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a paid byth mynd yn ôl eto.”

26. Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw.

27. Ond gafaelodd Iesu yn ei law a'i godi, a safodd ar ei draed.

28. Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo'n breifat, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”

29. Atebodd Iesu, “Dim ond trwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.”

30. Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw,

31. am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”

32. Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo.

33. Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9