Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw.

15. Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw'n rhedeg i'w gyfarch.

16. “Am beth dych chi'n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd.

17. Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud.

18. Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”

19. “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.”

20. Wrth iddyn nhw ddod â'r bachgen at Iesu dyma'r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i'r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o'i geg.

21. Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn.

22. “Mae'r ysbryd drwg wedi ei daflu i ganol tân neu geisio'i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti'n gallu gwneud unrhyw beth i'n helpu ni, plîs gwna.”

23. “Beth wyt ti'n feddwl ‘Os wyt ti'n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i'r sawl sy'n credu!”

24. Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9