Hen Destament

Testament Newydd

Marc 9:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.”

2. Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau eu hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid.

3. Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau.

4. Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o'u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu.

5. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.”

6. (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn cymaint!)

7. Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!”

8. Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

9. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw.

10. (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”)

11. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 9