Hen Destament

Testament Newydd

Marc 8:6-24 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.

7. Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny.

8. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.

9. Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd,

10. aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.

11. Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw.

12. Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”

13. Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.

14. Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch.

15. Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus, a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a burum Herod hefyd,”

16. Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e.

17. Roedd Iesu'n gwybod beth roedden nhw'n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Pryd dych chi'n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi'n ystyfnig?

18. Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi'n cofio dim byd?

19. Pan o'n i'n rhannu'r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw.

20. “A phan o'n i'n rhannu'r saith torth i'r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw.

21. “Ydych chi'n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.

22. Dyma nhw'n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd.

23. Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?”

24. Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 8