Hen Destament

Testament Newydd

Marc 8:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”

25. Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir.

26. Dyma Iesu'n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i'r pentref.”

27. Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”

28. Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.”

29. “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy'r Meseia.”

30. Yna dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb.

31. Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.

32. Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud drefn wrtho am ddweud y fath bethau.

33. Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud drefn wrth Pedr o'u blaenau nhw. “Dos o'm golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”

34. Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda'i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.

35. Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a'r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 8