Hen Destament

Testament Newydd

Marc 8:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Dyma nhw'n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd.

23. Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?”

24. Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”

25. Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir.

26. Dyma Iesu'n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i'r pentref.”

27. Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”

28. Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 8