Hen Destament

Testament Newydd

Marc 7:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi ei orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.”

9. “Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw.

10. “Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’

11. Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw.’

12. Wedyn wrth gwrs, does dim rhaid i chi wneud dim i helpu'ch rhieni.

13. Dych chi'n defnyddio'ch traddodiad i osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Ac mae digon o enghreifftiau eraill o'r un math o beth y gallwn i sôn amdanyn nhw.”

14. Dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato eto, a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch arna i, dw i am i chi i gyd ddeall hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 7