Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:7-22 beibl.net 2015 (BNET)

7. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.

8. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.

9. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr.

10. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno.

11. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”

12. Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd.

13. Roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a'u hiacháu nhw.

14. Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”

15. Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol.

16. Pan glywodd Herod beth oedd Iesu'n ei wneud, dwedodd ar unwaith “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!”

17. Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i'w frawd Philip, roedd Herod wedi ei phriodi.

18. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.”

19. Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu

20. am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.

21. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi eu gwahodd i'r parti.

22. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6