Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:42-56 beibl.net 2015 (BNET)

42. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta,

43. a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.

44. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!

45. Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre.

46. Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo.

47. Roedd hi'n nosi, a'r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.

48. Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai'n mynd heibio iddyn nhw,

49. a dyma nhw'n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw'n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw'n gweiddi mewn ofn.

50. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”

51. Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc.

52. Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig.

53. Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch.

54. Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o'r cwch.

55. Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato.

56. Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6