Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:36-43 beibl.net 2015 (BNET)

36. Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”

37. Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”

38. “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”

39. Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.

40. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.

41. Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.

42. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta,

43. a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6