Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:18-37 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.”

19. Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu

20. am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.

21. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi eu gwahodd i'r parti.

22. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.”

23. Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!”

24. Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi.“Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam wrthi.

25. Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”

26. Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi.

27. Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd.

28. Daeth yn ei ôl gyda'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch, ac aeth hithau ag e i'w mam.

29. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw'n cymryd y corff a'i roi mewn bedd.

30. Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi ei wneud a'i ddysgu.

31. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu'n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”

32. I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau eu hunain.

33. Ond roedd llawer o bobl wedi eu gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau.

34. Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.

35. Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr.

36. Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”

37. Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6