Hen Destament

Testament Newydd

Marc 6:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gadawodd Iesu'r ardal honno a mynd yn ôl gyda'i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu.

2. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau?

3. Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.

4. Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!”

5. Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw.

6. Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu.Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu'r bobl.

7. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.

8. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.

9. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr.

10. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno.

11. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 6