Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:9-24 beibl.net 2015 (BNET)

9. Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.”

10. Roedden nhw'n crefu ar i Iesu i beidio eu hanfon nhw i ffwrdd o'r ardal honno.

11. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos,

12. a dyma'r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i'r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.”

13. Dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a'r ysbrydion drwg o'r dyn ac i mewn i'r moch. Dyma'r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.

14. Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain,

15. roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll.

16. Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch,

17. dyma'r bobl yn mynnu fod Iesu'n gadael eu hardal.

18. Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e.

19. “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.”

20. Felly i ffwrdd â'r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi ei wneud iddo. Roedd pawb wedi eu syfrdanu.

21. Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr.

22. Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o'r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu

23. a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.”

24. Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5