Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma nhw'n croesi'r llyn i ardal Gerasa.

2. Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent

3. – yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed trwy roi cadwyni arno.

4. Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a'i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri'r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth.

5. A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig.

6. Pan welodd Iesu'n dod o bell, rhedodd i'w gyfeiriad a phlygu ar lawr o'i flaen.

7. Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!”

8. (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn.)

Darllenwch bennod gyflawn Marc 5