Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:20-30 beibl.net 2015 (BNET)

20. Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed.

21. Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw.

22. Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”

23. Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan?

24. Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll!

25. Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu.

26. A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno!

27. Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.

28. Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd,

29. ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.”

30. (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3