Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth.

2. Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo!

3. Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.”

4. Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.

5. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr.

6. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.

7. Aeth Iesu at y llyn gyda'i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn – pobl o Galilea, ac o Jwdea,

8. Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o'r ardaloedd yr ochr draw i'r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud.

9. Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i'r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu.

10. Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i'w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl.

11. A phan oedd pobl wedi eu meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 3