Hen Destament

Testament Newydd

Marc 2:24-28 beibl.net 2015 (BNET)

24. “Edrych!” meddai'r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”

25. Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?

26. Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”

27. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl.

28. Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn hyd yn oed ar y Saboth.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 2