Hen Destament

Testament Newydd

Marc 15:35-47 beibl.net 2015 (BNET)

35. Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”

36. Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.”

37. Ond yna dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, yna stopio anadlu a marw.

38. A dyma'r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod.

39. Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”

40. Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome.

41. Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e.

42. Roedd hi'n nos Wener (sef, y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi

43. aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o'r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.

44. Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo os oedd wedi marw ers peth amser.

45. Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff.

46. Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu'r corff i lawr a'i lapio yn y lliain. Yna fe'i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi ei naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd.

47. Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno'n edrych lle cafodd ei osod.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 15