Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Gwnaeth hi beth allai ei wneud. Tywalltodd bersawr arna i, i baratoi fy nghorff i'w gladdu.

9. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”

10. Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu iddyn nhw.

11. Roedden nhw wrth eu bodd pan glywon nhw beth oedd ganddo i'w ddweud, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Felly roedd yn edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.

12. Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi'n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd yno i'w baratoi.”

13. Felly anfonodd ddau o'i ddisgyblion i Jerwsalem, a dweud wrthyn nhw, “Wrth fynd i mewn i'r ddinas, bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl,

14. a gofyn i berchennog y tŷ y bydd yn mynd iddo, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion?’

15. Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”

16. Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.

17. Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl.

18. Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”

19. Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14