Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:66-72 beibl.net 2015 (BNET)

66. Yn y cyfamser roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio.

67. Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai.

68. Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa.

69. Ond dyma'r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.”

70. Ond gwadu wnaeth Pedr eto.Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti'n un ohonyn nhw yn bendant! Mae'n amlwg dy fod ti'n dod o Galilea.”

71. Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi'n sôn amdano!”

72. A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crïo.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14