Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:52-71 beibl.net 2015 (BNET)

52. ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth.

53. Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd.

54. Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r gweision diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân.

55. Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth.

56. Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd.

57. Yn y diwedd, dyma rhywrai yn tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw):

58. “Clywon ni e'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma sydd wedi ei hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’”

59. Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson!

60. Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”

61. Ond ddwedodd Iesu ddim gair.Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?”

62. “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”

63. Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai.

64. “Dych chi i gyd wedi ei glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth.

65. Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r gweision diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro.

66. Yn y cyfamser roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio.

67. Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai.

68. Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa.

69. Ond dyma'r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.”

70. Ond gwadu wnaeth Pedr eto.Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti'n un ohonyn nhw yn bendant! Mae'n amlwg dy fod ti'n dod o Galilea.”

71. Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi'n sôn amdano!”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14