Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:45-63 beibl.net 2015 (BNET)

45. Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.

46. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio.

47. Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.

48. “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?

49. Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”

50. Dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael, a dianc.

51. Ond roedd un dyn ifanc yn dilyn Iesu, yn gwisgo dim amdano ond crys nos o liain. Dyma nhw'n ceisio ei ddal e,

52. ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth.

53. Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd.

54. Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r gweision diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân.

55. Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth.

56. Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd.

57. Yn y diwedd, dyma rhywrai yn tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw):

58. “Clywon ni e'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma sydd wedi ei hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’”

59. Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson!

60. Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”

61. Ond ddwedodd Iesu ddim gair.Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?”

62. “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”

63. Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14