Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:34-48 beibl.net 2015 (BNET)

34. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.”

35. Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib.

36. “Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

37. Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan?

38. Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”

39. Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo'r un peth eto.

40. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

41. Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.

42. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”

43. Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o'r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu.

44. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn; arestiwch e, a'i gadw yn y ddalfa.”

45. Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.

46. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio.

47. Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.

48. “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14