Hen Destament

Testament Newydd

Marc 14:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”

16. Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.

17. Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl.

18. Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”

19. Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?”

20. “Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi.

21. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”

22. Tra roedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”

23. Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.

24. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl.

25. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”

26. Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.

27. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’

28. Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o'ch blaen chi i Galilea.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 14