Hen Destament

Testament Newydd

Marc 13:22-37 beibl.net 2015 (BNET)

22. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!

23. Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw.

24. “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu,a'r lleuad yn peidio rhoi golau;

25. bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’

26. “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.

27. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.

28. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.

29. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i'r drws!

30. Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.

31. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ei ddweud yn aros am byth.

32. “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!

33. Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e'n digwydd.

34. Mae fel dyn sy'n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae'n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae'n dweud wrth yr un sy'n gofalu am y drws i edrych allan amdano.

35. “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl – gall ddod gyda'r nos, neu ganol nos, neu'n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio.

36. Bydd yn dod heb rybudd, felly peidiwch gadael iddo'ch dal chi'n cysgu.

37. Dw i'n dweud yr un peth wrth bawb: ‘Gwyliwch!’”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 13