Hen Destament

Testament Newydd

Marc 13:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!”

2. Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”

3. Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat,

4. “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?”

5. Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.

6. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.

7. Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.

8. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn!

9. “Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i.

10. Rhaid i'r newyddion da gael ei gyhoeddi ym mhob gwlad gyntaf.

11. Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud pan gewch eich arestio a'ch rhoi ar brawf. Dwedwch beth fydd yn dod i chi ar y pryd, achos dim chi fydd yn siarad, ond yr Ysbryd Glân.

12. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio.

13. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub.

14. “Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi ei osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 13