Hen Destament

Testament Newydd

Marc 12:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan.

9. “Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill.

10. Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;

11. yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? ”

12. Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e'n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd.

13. Wedyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o'r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda'i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.

14. Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni – Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?

15. Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu'n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi'n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.”

16. Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”“Cesar,” medden nhw.

17. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo.

18. Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)

19. “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’

20. Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 12