Hen Destament

Testament Newydd

Marc 12:32-42 beibl.net 2015 (BNET)

32. “Rwyt ti'n iawn, athro,” meddai'r dyn, “Mae'n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.

33. Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.”

34. Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Dwyt ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.”O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.

35. Pan oedd Iesu wrthi'n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd?

36. Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’

37. Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno.

38. Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad.

39. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.

40. Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.”

41. Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r y dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr.

42. Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron).

Darllenwch bennod gyflawn Marc 12