Hen Destament

Testament Newydd

Marc 12:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni – Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?

15. Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu'n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi'n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.”

16. Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”“Cesar,” medden nhw.

17. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo.

18. Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)

19. “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’

20. Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant.

21. Dyma'r ail frawd yn priodi'r weddw, ond buodd yntau farw heb gael plentyn. Digwyddodd yr un peth gyda'r trydydd.

22. I ddweud y gwir, er iddyn nhw i gyd briodi'r wraig wnaeth yr un o'r saith adael plentyn ar ei ôl. Yn y diwedd dyma'r wraig yn marw hefyd.

23. Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”

24. Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw.

25. Fydd pobl ddim yn priodi pan fydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd.

26. A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! – ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 12