Hen Destament

Testament Newydd

Marc 11:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion,

2. “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac

3. os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’”

4. Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi ei rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd

5. dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi'n ei wneud?”

6. Dyma nhw'n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma'r bobl yn gadael iddyn nhw fynd.

7. Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu eu cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn.

8. Dechreuodd pobl daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi eu torri o'r caeau.

9. Roedd pobl y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Clod i ti!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!”

10. “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi ei bendithio!”“Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”

11. Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl.

12. Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd.

13. Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod.

14. “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e.

15. Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 11