Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’.

7. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig,

8. a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned.

9. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!”

10. Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma'r disgyblion yn holi Iesu am hyn

11. Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.”

12. (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau'n godinebu.)

13. Roedd pobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.

14. Roedd Iesu'n ddig pan welodd nhw'n gwneud hynny. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.

15. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10