44. a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall.
45. Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”
46. Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛).
47. Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
48. “Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”