Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:34-46 beibl.net 2015 (BNET)

34. Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a'm lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”

35. Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw.

36. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd.

37. Dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”

38. “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â'r un bedydd â mi?”

39. “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi'n yfed o'r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd a mi,

40. ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae Duw wedi eu dewis.”

41. Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda Iago ac Ioan.

42. Felly dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod sut mae'r pwysigion sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl.

43. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu,

44. a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall.

45. Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”

46. Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛).

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10