Hen Destament

Testament Newydd

Marc 10:22-32 beibl.net 2015 (BNET)

22. Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.

23. Dyma Iesu'n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”

24. Roedd y disgyblion wedi eu syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!

25. Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”

26. Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i'w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”

27. Dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”

28. Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!”

29. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a'r newyddion da

30. yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd – ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!

31. Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”

32. Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu'n cerdded ar y blaen, a'r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi eu syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni'n fawr. Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Marc 10