Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”

6. Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.

7. Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw.

8. Roedd eraill yn dweud mai'r proffwyd Elias oedd wedi dod, ac eraill eto'n meddwl mai un o broffwydi'r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw.

9. “Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i'n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu.

10. Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi ei wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau eu hunain, i dref o'r enw Bethsaida.

11. Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.

12. Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.”

13. Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”

14. (Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.”

15. Dyma'r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb.

16. Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9