Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:42-50 beibl.net 2015 (BNET)

42. Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad.

43. Roedd pawb wedi eu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith.Tra roedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion,

44. “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.”

45. Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.

46. Dyma'r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica.

47. Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl.

48. Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”

49. “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

50. “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9