Hen Destament

Testament Newydd

Luc 9:28-41 beibl.net 2015 (BNET)

28. Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e.

29. Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar.

30. A dyma nhw'n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu.

31. Roedd hi'n olygfa anhygoel, ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem.

32. Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e.

33. Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad go iawn beth roedd yn ei ddweud!)

34. Tra roedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r cwmwl.

35. A dyma lais yn dod o'r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi ei ddewis. Gwrandwch arno!”

36. Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi ei weld.

37. Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.

38. Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i!

39. Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio!

40. Roeddwn i'n crefu ar dy ddisgyblion di i'w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”

41. “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 9